Ein nod yw bodloni holl ofynion blaenoriaeth 1 a 2 Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We W3C 1.0 (CHCW 1.0). Cyfeirir yn gyffredin at gyrraedd y safon hon fel Lefel cydymffurfiaeth AA.
Er mwyn cyflawni'r lefel cydymffurfiaeth hon, mae'r safle yn gweithredu nifer o ddulliau i sicrhau bod y cynnwys yn hygyrch i amrywiaeth eang o ddefnyddwyr. Gallwch ddarllen mwy, a newid eich gosodiadau isod.
Mae dyluniad y wefan yn cynnwys cyfleuster i gynyddu maint y testun ar draws y safle cyfan. Dewiswch un o'r opsiynau isod i newid maint y testun:
Rhagosodedig |
Canolig |
Mawr
Mae'r wefan hon yn eich galluogi i newid cyferbyniad y sgrîn drwy wrthdroi lliwiau'r blaendir a'r cefndir, gan wneud y testun yn haws i'w ddarllen. Dewiswch un o'r opsiynau isod i newid y gosodiad cyferbyniad:
Cyferbyniad uchel |
Lliwiau safonol
Lle mae ystyr y testun ar y wefan yn cael ei ymhlygu drwy ddefnyddio lliw, bydd testun cysylltiedig i nodi ei ystyr bob tro.
Mae dyluniad y wefan yn cynnwys cyfleuster i gael gwared ar ddelweddau a thaflenni arddull, gan ddarparu fformat wedi'i symleiddio i ddefnyddwyr. Dewiswch un o'r opsiynau isod i newid y gosodiad testun yn unig:
Testun yn unig |
Arddulliau arddangos
Gellir defnyddio'r holl swyddogaethau ar y wefan hon gan ddefnyddio'r bysellfwrdd yn unig. Mae allweddi llwybr brys yn caniatáu i chi neidio i wahanol rannau o'r safle.
Mae yna ddolen neidio i'r cynnwys ar frig pob tudalen we sy'n symud y canolbwynt i ddechrau'r prif gynnwys ar dudalen we.
Mae'r holl ddelweddau ar y wefan yn cynnwys testun ychwanegol (testun alt), sy'n cael ei arddangos pan fydd defnyddwyr wedi diffodd llwytho delweddau yn eu porwr, neu pan fyddant yn defnyddio technoleg darllen sgrin.
Bydd y testun a geir yn y testun alt yn dibynnu ar y rheswm dros y ddelwedd:
Mae'r tudalennau gwe ar y safle hwn wedi cael eu gwirio trwy Ddilysydd HTML, sy'n gwirio am unrhyw gôd rhaglennu anghywir yn erbyn y safonau W3C. Bydd safleoedd sy'n llwyddo yn erbyn y gwiriadau dilysu hyn yn cael eu darllen yn haws gan dechnolegau darllen sgrîn.
Mae gan bob tudalen we o fewn y safle benawdau priodol, a lle bo'n berthnasol, is-benawdau. Mae'r penawdau yn darparu toriadau rhesymegol o fewn y cynnwys ac mae'r rhain yn cael eu dangos i ddefnyddwyr sy'n defnyddio technolegau darllenydd sgrîn.
Mae gan holl feysydd cofnodi data ar y safle label gysylltiedig er mwyn eglurder wrth ddefnyddio technolegau darllenydd sgrîn.
Mae gan y wefan hon map o'r safle sy'n rhestru'r holl dudalennau ar y safle, gan ddarparu mynediad un clic i'r defnyddiwr at yr holl dudalennau gwe - Ewch i Fap o'r safle
Gallwch symud i wahanol dudalennau drwy ddefnyddio prif gategorïau ar y bar dewislenni ar frig pob tudalen. Os ydych yn symud eich llygoden dros fotwm neu destun cyswllt, byddwch yn sylwi ar y cyrchwr yn newid i law, mae hyn yn dangos y byddwch yn cael eich cyfeirio at dudalen wahanol ar ddewis un o'r opsiynau hyn.
Bydd unrhyw destun o fewn y safle sy'n cysylltu â thudalen arall yn disgrifio'r dudalen newydd yn glir; os byddwch yn symud eich llygoden dros y testun, fe fydd rhagor o wybodaeth yn egluro'r dudalen yn cael ei harddangos mewn 'tooltip' safonol.